11Mae’r Asesiad o Hygyrchedd Digidol yn broses brofi manwl gywir sy’n archwilio hygyrchedd eich gwasanaethau digidol yn drylwyr. Mae’n cynnwys profion ar ddyfeisiau symudol a/neu gyfrifiaduron llechen yn ogystal â chyfrifiaduron bwrdd gwaith.

Mae’r Asesiad o Hygyrchedd Digidol yn cynnwys tri lefel o brofion:

1. Profion awtomataidd
2. Adolygiad technegol â llaw
3. Profion gan Ddefnyddwyr

Bydd yr amrywiaeth hwn o brofion yn sicrhau y cewch chi adolygiad cynhwysfawr o blatfform eich gwefan er mwyn canfod unrhyw anawsterau o ran hygyrchedd.

Cynhelir y profion gan ddefnyddwyr cyfrifiaduron a ffonau clyfar Gwasanaeth Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw, ac mae gan y defnyddwyr hyn anableddau. Bydd rhai yn defnyddio technolegau cynorthwyol yn ystod y profion. Mae enghreifftiau yn cynnwys darllenwyr sginiau JAWS a NVDA, meddalwedd llais a meddalwedd chwyddo testun ZoomText. Mae ein tîm profi yn cynnwys y sawl sy’n defnyddio bysellfyrddau yn unig a’r sawl nad oes arnynt angen technoleg neu feddalwedd gynorthwyol, megis profwyr sydd â dyslecsia, lliwddallineb neu anhwylder gorbryder/panig.

Asesiadau ar declynnau symudol

A wyddoch chi?

Bellach, gwneir dros hanner y pori gwefannau yn fyd-eang ar declynnau symudol a chyfrifiaduron llechen (51.3% yn 2016, yn ôl y cwmni dadansoddeg gwefannau StatCounter).

Dyna pam mae’n hanfodol sicrhau fod fersiwn symudol eich gwefan yr un mor hygyrch â’r fersiwn i gyfrifiaduron bwrdd gwaith.

Byddwn yn profi addasrwydd eich gwasanaethau digidol i’w defnyddio gan bobl sydd ag amhariadau symudedd, sy’n ei chael hi’n anodd gwneud y symudiadau manwl gywir sy’n ofynnol wrth ddefnyddio teclynnau â sgrin gyffwrdd.  Byddwn hefyd yn trefnu profion gan ddefnyddwyr sydd â lliwddallineb, dyslecsia a/neu anawsterau dysgu, ynghyd â’r sawl sy’n gweld yn rhannol ac yn gorfod chwyddo cynnwys neu newid ei faint.  Mae ein tîm profi hefyd yn cynnwys defnyddwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

Fel rhan o’ch Asesiad o Hygyrchedd Digidol, bydd tîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn defnyddio dyfeisiau blaenllaw megis iPhones, iPads a ffonau clyfar Samsung Galaxy i brofi platfform eich gwefan.   Bydd ein arbenigwyr ar hygyrchedd technegol a’n haseswyr yn defnyddio’r teclynnau hyn gan alluogi ac analluogi ein nodweddion hygyrchedd.

Mae enghreifftiau o dechnolegau hygyrchedd ar gyfer ffonau clyfar/cyfrifiaduron llechen yn cynnwys darllenwyr sgriniau VoiceOver a TalkBack, sydd wedi’u cynllunio ar gyfer defnyddwyr byddar. Mae llawer o declynnau hefyd yn cynnwys ap chwyddo sy’n cynnwys darllenwr sgriniau ar gyfer defnyddwyr sy’n gweld yn rhannol.

Bydd yr Asesiad o Hygyrchedd Digidol yn darparu archwiliad hollol gynhwysfawr o hygyrchedd eich gwefan, eich mewnrwyd neu eich allrwyd, a bydd yn gwneud llawer mwy na’r profion sydd ar gael fel rhan o’r gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol.

A wyddoch chi?

Nid yw rhai o’r adnoddau awtomataidd yn profi pob un o feini prawf WCAG, a gall pennu ansawdd atebion hygyrchedd fod yn anodd.

Gall adnoddau awtomataidd fod yn ddull defnyddiol a rhad o’ch cynorthwyo i wneud gwasanaeth yn fwy hygyrch.  Gellir eu rhedeg yn gyflym ac fe gewch chi adborth yn syth.

Fodd bynnag, er y gall rhedeg adnodd profi awtomatidd i fesur gwasanaeth fod yn ddefnyddiol, mae’n bwysig i dimau beidio dibynnu arnynt yn ormodol.  Ni all unrhyw adnodd ganfod pob rhwystr rhag hygyrchedd ar wefan.  Felly, os na fydd adnodd yn canfod anawsterau ynghylch hygyrchedd ar wefan, ni fydd hynny’n golygu nad ydynt yn bodoli.

Hyd yn oed os bydd profion awtomataidd yn canfod rhwystr rhag hygyrchedd, weithiau bydd eu canlyniadau yn amhendant neu bydd angen rhagor o waith ymchwil.  Hefyd, mewn rhai achosion, gall canlyniadau fod yn anghywir oherwydd dull gweithredu safonol y profion.

Mae ystyried adnodd profi fel defnyddio meddalwedd gwirio sillafu yn gyfatebiaeth dda.  Gall eich cynorthwyo i ganfod anawsterau, heb os, ond ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.  I sicrhau eu bod mor ddefnyddiol ag y gallant fod, dylid cyfuno adnoddau awtomataidd ag archwiliadau gan bobl ac ymchwil gan ddefnyddwyr.

Ffynhonnell:  https://accessibility.blog.gov.uk/2017/02/24/what-we-found-when-we-tested-tools-on-the-worlds-least-accessible-webpage/