Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw

Cartref hygyrchedd

Croeso i Ymddiriedolaeth Shaw, cartref hygyrchedd

Gweithio i sicrhau byd cynhwysol ar gyfer sefydliadau ac unigolion.

Manteisiwch o’n gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol Rhad ac am Ddim

Mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynorthwyo sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol i greu amgylcheddau hygyrch, yn cynnwys rhai digidol ac adeileddol.

Mae hygyrchedd yn llesol i gymaint o bobl, yn cynnwys:

  • Y sawl sy’n anabl neu heb anabledd
  • Pobl hŷn a defnyddwyr newydd
  • Pobl sydd ag anableddau dros dro oherwydd damwain neu iechyd gwael
  • Pobl sydd heb fysellfwrdd neu lygoden neu sy’n methu eu defnyddio

Yn wir, mae bod yn hygyrch yn fuddiol i bawb ohonom.

Mae bod yn hygyrch hefyd yn gwneud synnwyr busnes da oherwydd:

  • Mae hygyrchedd yn gwella ymgysylltu â chwsmeriaid, buddsoddwyr, cyflogeion, cyflenwyr, ac yn wir, â phawb, felly cynyddir eich cynulleidfa, eich sylfaen o gwsmeriaid a’ch cronfa o ddoniau
  • Mae eich optineiddio peiriannau chwilio yn gwella
  • Mae hygyrchedd yn gwella profiad defnyddwyr
  • Mae’n darparu mantais gystadleuol
  • Rydych yn cyflawni safonau byd-eang ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth
  • Bob yn gynhwysol yw’r peth priodol i’w wneud hefyd