Un elfen o’n gwaith yng Ngwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yw profi gwefannau a gwasanaethau digidol eraill a chynorthwyo i’w gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr sydd ag amhariadau gwybyddol.

Mae hyn yn golygu fod gennym ni brofiad sylweddol o ystyried sut gall pobl sydd ag amhariad gwybyddol elwa’n llawn o’u gwasanaethau digidol.  Isod, rhestrir rhai o’r dulliau y gallwch eu defnyddio.

Sicrhewch fod eich ffôn clyfar neu eich cyfrifiadur llechen yn haws i’w ddefnyddio

Yn dibynnu ar y math o ffôn clyfar neu gyfrifiadur llechen sydd gennych chi, gallwch chi ei wneud yn haws i’w ddefnyddio.

Yn achos teclynnau Android 7 Nougat, gallwch chi addasu’r swyddogaeth ‘touch and hold’.  Mae’r swyddogaeth hon yn ymwneud ag apiau y mae angen i chi bwyso a dal eich bys ar y sgrin er mwyn sbarduno gweithred.  Os byddwch chi’n sbarduno gweithredoedd yn ddamweiniol trwy bwyso yn rhy hir, yn lle tapio’r sgrin, gallwch chi newid faint o amser bydd angen i chi bwyso eich bys ar y sgrin.

Yn achos teclynnau iPhone, Ipad ac iPad Touch, mae’r swyddogaeth ‘guided access’ yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar un rhan o ap heb i brosesau eraill wrthdynnu eich sylw.  Bydd yn gwneud hyn trwy gyfyngu mynediad i rannau o’r sgrin sydd ddim yn berthnasol i’r dasg bresennol.   Mae hyn yn neilltuol o ddefnyddiol os ydych chi’n wynebu heriau dal sylw a synhwyraidd. Mae hefyd yn ddefnyddiol os byddwch chi’n cael trafferth canolbwyntio a byddwch chi’n cael eich temtio i bori mewn rhannau eraill o’r ap neu’r teclyn.

Gwnewch y testun yn fwy

Gallwch chi newid gosodiadau eich teclyn i wneud y testun yn fwy ar y sgrin.  Gall hyn olygu y bydd yn haws i’w ddarllen.

Chwyddwch y sgrin

Mae cyfrifiaduron Windows, Apple Mac a Linux oll yn caniatáu i chi chwyddo eich sgrin. Gall hyn wneud y testun a’r delweddau yn haws i’w gweld a’u deall.

Newidiwch y lliwiau

Os byddwch chi’n cael trafferth â rhai lliwiau penodol, gallwch newid gosodiadau eich cyfrifiadur i newid y lliwiau a ddangosir ganddo.  Mae llawer o ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau gwrthdroi lliwiau, a all olygu ei bod hi’n haws i chi weld a pharhau i ganolbwyntio ar y cynnwys rydych yn ei ddarllen.

Newidiwch eich ffont

Gallwch newid y ffont ar eich gliniadur neu gyfrifiadur i sicrhau y gellir ei weld yn fwy  eglur a’i fod yn haws i’w ddeall.  Gall newid gosodiadau ffontiau fod yn ffordd dda o’ch cynorthwyo i barhau i ganolbwyntio ar yr wybodaeth rydych chi’n dymuno ei chyrchu.

Siaradwch â’ch teclyn

Diolch i ddatblygiadau mewn technoleg, nid oes rhaid i chi deipio i allu cyfathrebu â’ch teclyn.  Mae technoleg gorchmynion lleisiol wedi gwella’n sylweddol yn ddiweddar, a bellach, gallwch chi siarad ag amrywiaeth o declynnau er mwyn gofyn iddynt wneud pethau.  Mae hynny’n cynnwys gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth o’r Rhyngrwyd i chi.

Defnyddiwch y swyddogaeth llais

Gallwch osod cyfrifiaduron Windows ac Apple Mac i siarad â chi.  Gweithredwch y swyddogaeth llais er mwyn clywed yr wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno i chi, yn ogystal â’i gweld.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch gwneud y gorau o’ch teclynnau digidol, cysylltwch â Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw.