• I’r sawl sydd wedi cofrestru fel rhai sydd â nam ar y golwg (“rhannol ddall” yn flaenorol) neu nam difrifol ar y golwg (“dall” yn flaenorol), efallai bydd newidiadau, adnoddau a thechnegau i’w cynorthwyo i fyw bywyd beunyddiol yn ofynnol. Dyma wyth o’n cynghorion i sicrhau y gallwch chi elwa’n llawn o’r dechnoleg byddwch yn ei defnyddio

  • Mae amhariad gwybyddol yn ddisgrifiad sy’n golygu y gall unigolyn brofi anawsterau â phethau fel y cof neu ddal sylw ar bethau. Efallai fod y sawl sydd wedi’u heffeithio yn cael trafferth siarad neu ddeall, ac efallai ei bod hi’n adnodd iddynt adnabod pobl, llefydd neu bethau. Efallai y cânt hefyd eu gorlethu gan lefydd neu sefyllfaoedd newydd. Dyma ein cipolwg ar ddulliau ymarferol o wneud ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen yn haws eu defnyddio.

  • Ni all arsyllwyr weld byddardod/nam ar y clyw, ond mae hynny’n effeithio’n amlwg ar fywydau pobl. Pa un ai a fydd y cyflwr yn datblygu’n raddol neu’n gyflym, a beth bynnag fo’r achos, efallai bydd angen gwneud newidiadau bywyd. Dyma ein camau i helpu’r sawl sydd wedi’u heffeithio i wneud y defnydd gorau o wasanaethau digidol.

  • Efallai fod pobl sydd ag amhariadau corfforol yn wynebu anawsterau â symudedd, medrusrwydd corfforol a llefaru. Bydd rhai yn defnyddio cadair olwyn trwy’r adeg neu ar brydiau. Efallai bydd arnynt angen cymorth i wneud gweithgareddau beunyddiol a gall difrifoldeb eu symptomau gynyddu a gostwng. Dyma rywfaint o gyngor ymarferol gennym i wneud defnyddio cyfrifiadur yn haws.

  • Trowch at yr adran hon i ganfod cysylltiadau at sefydliadau sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr ynghylch materion yn ymwneud â hygyrchedd. O gyngor ynghylch Deddf Cydraddoldeb 2010 a llunio amgylcheddau ar gyfer pobl sydd ag anableddau, i wasanaethau dehongli o bell ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, mannau yn y Deyrnas Unedig i ymweld â hwy, a sut i gael profiad cadarnhaol wrth deithio neu fynd ar wyliau.