3Mae tîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynnig cymorth i sicrhau fod eich gwefan yn hygyrch o’r dechrau.

Yn hytrach na datblygu gwefan ac yna gweithio’n ôl-weithredol i’w wneud yn hygyrch, mae ein gwasanaeth adolygu Cynlluniau a Thempledi yn caniatau i chi wneud hygyrchedd yn rhan anhepgor o’ch gwasanaethau digidol.

Bydd ein tîm technegol profiadol yn cydweithio â chi yn ystod cam cynllunio eich gwefan.  Mae gan dîm staff Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw gyfanswm gyda’i gilydd o dros 30 mlynedd ym maes materion hygyrchedd a thechnoleg ymaddasol.  Gallwch chi elwa o’r arbenigedd hwn o ddechrau eich prosiect digidol.

Pa un ai a fyddwch chi’n gweithio â fframiau gwifren, cynlluniau fflat neu ddelweddau, gall ein tîm eich cynorthwyo i ragweld anawsterau hygyrchedd posibl a chynnig atebion adeiladol i atal anawsterau cyn iddynt godi.  Gall hyn arbed amser ac arian i chi yn y tymor hirach, oherwydd bydd gweithredu newidiadau yn ystod y cyfnod cynllunio yn aml yn haws na cheisio gwneud hynny ar wefan fyw.

Darperir ein hargymhellion ar ffurf adroddiad eglur, hawdd ei ddeall, sy’n cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch yr atebion sy’n ofynnol i sicrhau fod platfform eich gwefan yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG). Mae ein tîm profiadol hefyd ar gael i gwrdd â chi trwy gyfrwng rhithwir neu wyneb yn wyneb er mwyn trafod yr argymhellion a sut gallwch chi eu gweithredu.

Mae’r gwasanaeth Adolygu Cynlluniau a Thempledi yn cynnwys dwy elfen graidd.  Bydd y cam profi templedi yn sicrhau fod eich gwasanaethau digidol yn hygyrch o ran eu hymarferoldeb.  Yna, bydd y cam adolygu cynlluniau yn ystyried materion megis gosodiad, lliw a chopi, gan sicrhau fod gennych chi’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddatblygu gwefan hollol hygyrch o’r dechrau cyntaf.

Bydd staff Gwasanaethau Hygyrchedd Shaw Trust yn cydweithio â’ch tîm er mwyn datblygu ateb hygyrch.  Byddwn yn ceisio lleihau eich costau cymaint ag y gellir a rhannu gwybodaeth â’ch tîm mewnol, a bydd hynny’n caniatáu i chi sicrhau fod hygyrchedd yn ffactor sylfaenol yn natblygiad eich gwefan.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r tîm ar 0300 123 7005

Cofiwch, gall un cam bychan wneud gwahaniaeth enfawr

A wyddoch chi?

  • Mae oddeutu 11.9 miliwn o bobl anabl yn y Deyrnas Unedig (1 o bob 5 bron iawn), ac mae ar lawer ohonynt angen gwybodaeth ac adnoddau arbenigol i’w helpu i fanteisio ar yr holl fuddion a gynigir gan y Rhyngrwyd.
  • Mae marchnad defnyddwyr anabl y Deyrnas Unedig yn cynnwys dros 10 miliwn o bobl anabl sy’n gwario cyfanswm o £80 biliwn yn flynyddol.

Ffynhonnell: Arolwg Adnoddau Teuluoedd DWP, 2013-14