Pa un ai a ydych chi adref, mewn addysg neu yn gweithio, mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn ceisio darparu adnoddau i sicrhau y gallwch chi elwa’n llawn o dechnoleg ddigidol.

Byddwn yn profi gwasanaethau digidol i fesur hygyrchedd ac yn hyfforddi cwmnïau ynghylch sut i wneud platfformau eu gwefannau yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anabledd; mae hynny’n cynnwys defnyddwyr sy’n ddall neu ag amhariad ar y golwg.   Mae hyn yn golygu fod gennym ni brofiad helaeth o ddefnyddio gwasanaethau digidol a datrys yr anawsterau y gall defnyddwyr sy’n ddall neu â nam ar y golwg eu hwynebu.

A wyddoch chi?

Mae 1.87 miliwn o bobl yn y DU wedi colli eu golwg mewn modd sy’n effeithio’n sylweddol ar eu bywyd beunyddiol, yn ôl Adroddiad ynghylch Colli Golwg ar gyhoeddwyd gan yr RNIB yn 2013.  Mae’r RNIB hefyd yn adrodd fod 224,000 o bobl yn y DU yn ymdopi â cholli golwg difrifol neu ddallineb.  Mae’r ddau ffigur yn uwch na ffigurau’r flwyddyn flaenorol.

Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae’n cynnig rhagor o ddewisiadau i ddefnyddwyr sy’n ddall neu ag amhariad ar y golwg.

Dyma wyth o’n cynghorion i sicrhau y gallwch chi elwa’n llawn o’r dechnoleg byddwch yn ei defnyddio

Defnyddiwch y swyddogaeth llais

Bellach, mae swyddogaeth llais wedi’i gynnwys mewn llawer o gyfrifiaduron a gliniaduron.  Os byddwch yn defnyddio’r swyddogaeth hon, caiff yr wybodaeth ar eich sgrin ei chyflwyno yn glywadwy ac yn weladwy.

Chwyddwch eich sgrin

Pa un ai a ydych chi’n ddefnyddiwr cyfrifiadur Windows, Apple Mac neu Linux, gallwch chi ddewis chwyddo eich sgrin i wneud y cynnwys yn fwy.  Bydd y dull o wneud hyn yn dibynnu ar sut mae eich system wedi’i gosod.

Newidiwch eich ffontiau

Mae rhai ffontiau yn haws i’w darllen nag eraill.  Mae Verdana, Lucida Sans (PC), Lucida Grande (Mac), Tahoma a Georgia oll yn ffontiau eglur sy’n hawdd eu deall. Gallwch chi newid y ffontiau ar eich cyfrifiadur ac yn eich porwr gwe i sicrhau fod yr wybodaeth y byddwch yn ei darllen i’w gweld mor eglur ag y bo modd.

Newidiwch eich lliwiau

Gall defnyddio gwahanol liwiau a chyferbynnedd wneud gwahaniaeth enfawr o ran sicrhau fod gwybodaeth yn hawdd i’w darllen.  Mae cyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar yn cynnig nifer o ddewisiadau i wella gwelededd, ac maent yn caniatáu i chi arbrofi â dewisiadau gwrthdroi lliwiau sydd wedi’u cynllunio i uchafu hygyrchedd.

Gwnewch eich testun yn fwy

Nid oes rhaid i chi weld y testun ar eich sgrin gan ddefnyddio’r maint rhagosodedig a ddefnyddir i’w gyflwyno.  Bydd eich dewisiadau yn dibynnu ar y teclyn a’r system gweithredu rydych chi’n ei defnyddio, ond mae sawl dull o wneud testun yn fwy i sicrhau ei fod yn haws i’w ddarllen.

Gwnewch eich bysellfwrdd yn well

Mae sawl dull o sicrhau fod llythrennau, rhifau a symbolau eich bysellfwrdd yn haws i’w gweld.  Gellir gosod troshaenau a sticeri ar y rhan fwyaf o fysellfyrddau maint safonol.  Maent ar gael mewn amrywiaeth o gyfuniadau a chyferbyneddau lliwiau.  Mae bysellfyrddau sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer defnyddwyr sy’n ddall neu ag amhariad ar y golwg hefyd ar gael.

Gwnewch eich llygoden yn well

Gallwch wneud pwyntydd eich llygoden yn fwy ac felly yn fwy gweladwy ar eich sgrin trwy newid ei osodiadau. Gall arafu cyflymder eich llygoden hefyd helpu.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch gwneud y gorau o’ch teclynnau digidol, cysylltwch â Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw.