Ers nifer fawr o flynyddoedd, mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cydweithio â sefydliadau i sicrhau fod eu gwasanaethau digidol yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr sy’n fyddar ac ag amhariad ar eu clyw.

Mae gennym ni dîm sy’n cael ei arwain gan bobl anabl, felly rydym ni mewn sefyllfa dda i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch sut gall pobl fyddar a’r sawl sydd ag amhariadau ar y clyw wneud y gorau o’u teclynnau digidol.

A wyddoch chi?

Mae dros 800,000 o bobl yn y DU yn ddifrifol fyddar neu’n hollol fyddar, yn ôl Action on Hearing Loss.  Hefyd, yn ôl y sefydliad, mae gan gyfanswm o 11 miliwn o bobl yn y DU ryw fath o golli clyw – sef un o bob chwe unigolyn.

Os ydych chi’n fyddar neu ag amhariad ar eich clyw, gallwch chi gymryd camau i sicrhau fod eich teclynnau digidol yn fwy hygyrch.

Rhybuddion gweledol

Gall cyfrifiaduron Windows ac Apple Mac gynnig y dewis o gael rhybuddion gweledol yn lle (neu yn ogystal â) rhai clywadwy.  Gall amrywiaeth o rybuddion fflachio ar y sgrin.  Mae llawer o ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechi hefyd yn cynnig rhybuddion gweledol i’ch hysbysu am amrywiaeth o swyddogaethau.

Iaith Arwyddion Prydain

Mae dros 50,000 o bobl sy’n fyddar neu ag amhariad ar y clyw yn y DU yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (a elwir hefyd yn BSL, yr acronym o’r enw Saesneg (er mwyn cyfathrebu).   Yn anffodus, nid oes llawer o wefannau yn cynnig BSL fel cyfrwng i gyfathrebu.  Un sydd yn gwneud hynny yw gwefan Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd), sefydliad sy’n hyrwyddo iaith arwyddion a materion pobl fyddar.

Ar gyfer pobl iau sy’n fyddar neu ag amhariad ar eu clyw, mae Signed Stories (bydd yn agor mewn tab neu ffenestr newydd)  gan ITV yn adnodd gwych. Mae’n cynnig llyfrau straeon i blant i’w darllen mewn BSL.  Mae’r straeon yn cynnwys isdeitlau hefyd.

Er bod nifer y gwefannau sy’n cynnig BSL yn gyfyngedig ar hyn o bryd, wrth i dechnoleg iaith arwyddion ddatblygu, rydym ni’n disgwyl y bydd rhagor o adnoddau gwefannau ar gael i ddefnyddwyr BSL.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch gwneud y gorau o’ch teclynnau digidol, cysylltwch â Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw.