Gall Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw sicrhau fod pob agwedd o’ch gwasanaeth digidol yn hygyrch.  Un elfen bwysig o hyn yw eich cynorthwyo â’ch gwasanaethau cyfryngau.

Darperir ein Gwasanaethau Cyfryngau gan dîm profiadol o arbenigwyr technegol sy’n cynorthwyo â thri maes allweddol:

  1. Trawsnewid dogfennau,
  2. Trawsgrifio a chapsiynu, ac
  3. Addasu delweddau.

Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cyflwyno gwybodaeth, gallwn ni eich cynorthwyo i’w gwneud yn hygyrch.

Trawsnewid Dogfennau

Nid yw dogfennau PDF a Microsoft Word yn hygyrch yn eu hanfod.  Fodd bynnag, gellir eu cyflwyno ar ffurf hygyrch.  Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr sydd ag amrywiaeth helaeth o anableddau ac amhariadau gyrchu a darllen y dogfennau.

Mae rhai o’r anawsterau mwyaf cyffredin â dogfennau PDF a Word yn ymwneud â’r defnydd o ddarllenwyr sgriniau.  Mae’r dogfennau yn cynnwys rhwystrau sy’n atal y defnydd effeithiol o’r math hwn o dechnoleg addasol.  Bydd y sawl sy’n defnyddio bysellfyrddau yn unig hefyd yn profi problemau yn aml iawn wrth geisio cyrchu’r mathau hyn o ddogfennau.

Bydd tîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i gynorthwyo eich tîm staff i sicrhau fod dogfennau o’r fath yn hygyrch.  Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth â’ch tîm fel gallwch chi roi arferion hygyrch ar waith yn y dyfodol – i bob pwrpas, byddwn yn rhoi’r grym yn uniongyrchol yn eich dwylo chi.

Trawsgrifio a Chapsiynu

Mae angen dewis testunol amgen (testun yn unig) yn lle cynnwys fideo a sain i sicrhau ei fod yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n drwm eu clyw neu’n fyddar.  Fel arfer, gwneir hyn trwy ddarparu trawsgrifiad, capsiynau neu’r ddau.  Gall ein tîm hynod fedrus ddarparu gwasanaethau trawsgrifio a chapsiynu ar gyfer pob cyfrwng fideo a sain a wnaiff ddiwallu anghenion eich gwasanaeth digidol.

Mae trawsgrifiad yn darparu cofnod cyflawn o’r wybodaeth a gyflwynir.  Mae capsiynau caeedig yn debyg i fath datblygedig i isdeitlau, ac maent wedi’u cynllunio i gael eu cyflwyno ar yr un pryd â’r geiriau a siaredir.  Bydd isdeitlau yn cwmpasu unrhyw ddeialog yn unig, ond bydd capsiynau caeedig yn cynnwys holl fanylion y sain, yn cynnwys pwy yw’r siaradwyr, effeithiau sain ac elfennau ac elfennau dieiriau.

Bydd y gwasanaethau hyn yn sicrhau fod yr wybodaeth a byddwch yn ei gyflwyno ar ffurf fideos a sain yn hygyrch i bob defnyddiwr.

A wyddoch chi?

Mae 11 miliwn o bobl wedi colli eu clyw ledled y DU – dyna un o bob chwech ohonom ni.  (Ffynhonnell: Action on Hearing Loss)

Mae 1 o bob 4 o bobl fyddar wedi ymddiswyddo oherwydd gwahaniaethu (ffynhonnell: Arolwg o Brofiad Ceiswyr Swyddi a Chyflogeion Byddar)

Addasu Delweddau

Nid yw bob delwedd yn hygyrch i bob gwyliwr.  Efallai na fydd rhai defnyddwyr yn gallu gweld y delweddau.  Efallai na fydd eraill yn gallu dehongli beth ddylai’r delweddau ei gyfleu.  Fel y cyfryw, mae’n bwysig sicrhau fod Testun Amgen ar gael ar gyfer bob delwedd a ddefnyddir gennych chi ar blatfform eich gwefan.

Gall staff Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw gydweithio â’ch tîm staff i sicrhau fod holl ddelweddau eich gwefan yn hollol hygyrch.  Yn ogystal â datrys anawsterau â delweddau sydd eisoes yn eu lle, byddwn hefyd yn rhannu ein gwybodaeth â’ch staff mewnol i sicrhau eich bod yn gwybod sut i gyflwyno delweddau hygyrch pan fyddwch chi’n eu hychwanegu at eich gwefan yn y dyfodol.

A wyddoch chi?

Mae 1.87 miliwn o bobl yn y DU sydd wedi colli eu golwg mewn modd sy’n effeithio’n sylweddol ar eu bywyd beunyddiol

  • Dim ond un o bob pedwar unigolyn wedi’u cofrestru fel rhywun dall neu’n gweld yn rhannol ac o fewn oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth).

(Ffynhonnell: Adroddiad RNIB ynghylch Statws Cyflogaeth a Cholli Golwg 2017)

Cysylltwch â thîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw heddiw i gael rhagor o fanylion.