Cofrestrwyd Ymddiriedolaeth Shaw fel elusen yn Lloegr a’r Alban (rhif Cymru a Lloegr 287785, rhif yr Alban SC039856) ac fel cwmni cyfyngedig trwy warant (rhif 1744121) ac mae ganddi swyddfeydd a siopau ledled y Deyrnas Unedig. Ein swyddfa gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Shaw, Trydydd Llawr, Black Country House, Rounds Green Road, Oldbury, B69 2DG. Ein rhif TAW yw 399017616.

  1. Bydd eich defnydd o’r wefan hon yn gyfystyr â derbyn y Telerau a’r Amodau hyn y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r wefan.
  2. Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn cadw’r hawl i newid y Telerau a’r Amodau hyn o bryd i’w gilydd trwy bostio newidiadau ar-lein. Mae parhad eich defnydd o’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu postio yn gyfystyr â derbyn y cytundeb fel y bydd ar ôl ei addasu.
  3. Gellir atal neu newid mynediad i’r wefan hon ar unrhyw adeg. Ni ellir dal Ymddiriedolaeth Shaw yn atebol am unrhyw achos o ddiffyg argaeledd y wefan.
  4. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd sydd ddim yn tramgwyddo hawliau, nac yn cyfyngu ar nac yn rhwystro’r defnydd a’r mwynhad o’r wefan gan unrhyw drydydd parti.
  5. Darperir y wefan a’r wybodaeth, yr enwau, y delweddau, y lluniau a’r logos ynghylch neu mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth Shaw “fel y maent” heb wneud unrhyw osodiad neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed hynny wedi’i fynegi’n glir neu ymhlyg. Ni fydd Ymddiriedolaeth Shaw ar unrhyw gyfrif yn atebol i dalu unrhyw iawndal, yn cynnwys iawndal digyfyngiad, iawndal anuniongyrchol neu iawndal ôl-ddilynol, neu unrhyw iawndal o unrhyw fath yn deillio o’r defnydd neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r fath neu unrhyw golli defnydd o’r safle, pa un ai a fydd hynny fel rhan o’r contract neu trwy esgeulustod.   Er bydd Ymddiriedolaeth Shaw yn ymdrechu i sicrhau fod yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon yn gywir, nid yw’n gwarantu nad yw’n cynnwys unrhyw wallau.
  6. Nid yw Ymddiriedolaeth Shaw yn gwarantu fod y swyddogaethau sydd wedi’u cynnwys yn y wefan hon yn ddi-dor na heb unrhyw wallau, y caiff diffygion eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau fod y wefan ar gael heb unrhyw firysau neu fygiau, na’i fod yn cynrychioli ymarferoldeb a dibynadwyedd y deunyddiau:
  7. Cyfyngiadau hawlfraint: *Gwaherddir defnydd masnachol o bob eitem neu unrhyw eitem a chyhoeddi pob eitem neu unrhyw eitem yn gaeth heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Shaw. Ni ddylid dehongli unrhyw beth sydd wedi’i gynnwys yma fel rhywbeth sy’n darparu unrhyw drwydded gan Ymddiriedolaeth Shaw i ddefnyddio unrhyw eitem a welir.  *Gellir copïo dogfennau at ddefnydd personol yn unig ar yr amod y caiff yr hawlfraint a dynodiadau’r ffynhonnell eu copïo hefyd, na wneir unrhyw newidiadau, ac y caiff y ddogfen ei chopïo’n llawn. Fodd bynnag, mae rhai dogfennau a lluniau wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan hon â chaniatâd perchnogion perthnasol yr hawlfraint (nid Shaw Trust).  Cedwir pob hawl i’r dogfennau hyn a rhaid gofyn am ganiatâd i’w copïo gan berchnogion yr hawlfraint (cyfeirir at y ffynonellau o fewn y dogfennau/lluniau hyn).  Mae’r holl eiddo deallusol yn eiddo i Ymddiriedolaeth Shaw, a gwaherddir y defnydd o unrhyw gynnwys gan ddefnyddwyr y wefan.
  8. Dywedwch Eich Stori Wrthym Ni. Bydd unrhyw ddefnyddiwr sy’n anfon cynnwys atom yn cydsynio y gall Ymddiriedolaeth Shaw wneud defnydd masnachol o ddeunydd o’r fath.
  9. Gall y wefan hon gynnwys dolenni at wefannau eraill; cofiwch nad yw Ymddiriedolaeth Shaw yn gyfrifol am arferion preifatrwydd unrhyw wefannau eraill o’r fath ac nid yw’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am eu cynnwys na’u hargaeledd. Rhaid i ddolenni gan unrhyw drydydd parti at y wefan hon fod yn deg a chyfreithlon ac ni ddylent niweidio enw da Ymddiriedolaeth Shaw nac elwa ar hynny.  Nid ddylai unrhyw ddolen o’r fath awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Shaw.
  10. Preifatrwydd: Gweler ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis.
  11. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau a’r Amodau hyn a’r rheolau a/neu’r telerau defnydd penodol sy’n ymddangos ar y wefan hon ynghylch deunydd penodol, yr olaf o’r rhain fydd drechaf.
  12. Caiff y Telerau a’r Amodau hyn eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
  13. Os na dderbynir y Telerau a’r Amodau hyn yn llawn, rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon yn syth.