Mae hygyrchedd a chynhwysiant yn faes enfawr.  Os ydych chi wedi’ch gorlethu ac yn ansicr ynghylch ble i gychwyn, nid chi yn unig sy’n teimlo felly.

Mae llawer o sefydliadau yn gwybod eu bod yn dymuno gwneud eu gwasanaethau digidol yn hygyrch a chynhwysol, ond nid ydynt yn gwybod sut i gyflawni eu nodau.

Dyna pam mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynnig gwasanaeth ymgynghori pwrpasol.  Byddwn yn mynd gyda chi ar bob cam o’ch taith tuag at gynhwysiant trwy ddarparu cyngor, arweiniad, hyfforddiant, pecynnau cymorth a chymorth â’ch strategaeth busnes.  Waeth ble ydych chi ar eich taith tuag at hygyrchedd, gallwn eich helpu i symud ymlaen.

Mae gennym ni dîm o arbenigwyr technegol cymwysedig a wnaiff eich cynorthwyo i wneud eich gwasanaethau ar-lein yn hygyrch.  Mae gan aelodau’r tîm gymwysterau mewn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.0 ac Adran 508. Byddant yn rhannu eu harbenigedd er mwyn gwella dealltwriaeth eich cwmni o faterion hygyrchedd.  Bydd y tîm hefyd yn darparu’r canllawiau mae arnoch chi eu hangen i sicrhau fod datblygiad eich gwasanaeth digidol yn cyflawni eich amcanion.

Caiff ein gwasanaeth ymgynghori ei baru’n llwyr ag anghenion eich sefydliad.  Rydym yn cynnig cymorth ynghylch pob agwedd o hygyrchedd, yn cynnwys mynediad corfforol a digidol, gweithredu a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.

Bydd Gwasanaeth Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cydweithio’n systematig â chi, gan ddangos i’ch tîm ble i gychwyn a pha dasgau i’w taclo yn gyntaf.  Byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth well o sut gall cwsmeriaid sydd ag anableddau ac amhariadau ryngweithio â’ch sefydliad.  Byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio eu hadborth i wella eich gwasanaethau.  Yn ychwanegol, bydd ein gwasanaeth ymchwil marchnad yn helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion a safbwyntiau eich cwsmeriaid.  Trwy gyfrwng ein cysylltiadau â sbectrwm eang o gwmnïau, gallwch hefyd elwa o ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o’r un anian sy’n fodlon rhannu eu profiad o’r daith tuag at hygyrchedd.

Mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn wasanaeth sydd wedi’i arwain gan bobl anabl.  Caiff unrhyw elw a wnawn ni yn sgil darparu gwasanaethau ymgynghori eu hail-fuddsoddi yn ein gwasanaeth ac i gyflawni cenhadaeth Ymddiriedolaeth Shaw i ddarparu gwasanaethau i bobl sydd dan anfantais, fel gallant ddatblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd, byw yn fwy annibynnol, sicrhau cyflogaeth gynaliadwy a chyfrannu’n weithgar at fywyd eu teulu a bywyd y gymuned.

Gallwch ein ffonio ni at 0300 123 7005 neu e-bostio accessforall@shaw-trust.org.uk i ddysgu rhagor am ein gwasanaethau ymgynghori.