2Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn falch fod ganddo dîm o brofwyr, sy’n deall yn sgil eu profiad arbenigol o anabledd a’u harrbenigedd proffesiynol pa mor bwysig yw hygyrchedd digidol.

Gyda’i gilydd, mae gan aelodau’r tîm dros 30 mlynedd o brofiad, ac maent yn frwdfrydig ynghylch cynorthwyo sefydliadau i wella hygyrchedd eu gwasanaethau.

Bydd ein tîm profion gan ddefnyddwyr yn defnyddio sgiliau arbenigol i brofi amrywiaeth o dechnolegau cynorthwyol, yn cynnwys darllenwyr sgriniau JAWS ac NVDA, meddalwedd llais Dragon a meddalwedd chwyddo testun ZoomText. Byddwn yn profi gwir hygyrchedd amrywiaeth o blatfformau gwefannau mewn cymhariaeth â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG).

Mae’r tîm profion gan ddefnyddwyr yn cynnwys pobl sydd ag amrywiaeth o amhariadau ac anableddau. Maent yn cynnwys:

  • Dallineb
  • Golwg gwael
  • Lliwddallineb
  • Dyslecsia
  • Anableddau dysgu
  • Amhariadau symudedd
  • Byddardod
  • Syndrom Asperger
  • Anhwylder gorbryder/panig

Gallwch ganfon rhagor am ein profwyr trwy ymweld â’r tîm.

Mae’r prosesau a ddefnyddir gan Wasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn golygu y gallwn ni sicrhau fod cwsmeriaid yn cael cipolwg dilys ar brofiadau defnyddwyr o’u gwasanaethau.  Byddwn yn cyfuno hyn â gwybodaeth dechnegol arbenigol er mwyn cynghori ynghylch yr atebion gorau i sicrhau hygyrchedd llawn. Disgrifir ein canfyddiadau mewn adroddiad hawdd ei ddeall sy’n cynnwys esboniadau eglur ynghylch unrhyw gamau gweithredu gofynnol.

Fel gwasanaeth agored a chynhwysfawr, byddwn yn gwahodd ein holl gwsmeriaid i fynychu’r sesiynau pan fydd defnyddwyr yn profi eu platfformau digidol.  Gall cwsmeriaid fynychu yn bersonol neu yn rhithwir.  Rydym ni wedi canfod fod hyn yn ffordd wych o gael cipolwg uniongyrchol ar y rhwystrau a wynebir gan ddefnyddwyr.  Gall cwsmeriaid ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r defnydd (a chyfyngiadau) technoleg ymaddasol a chael gwell gwerthfawrogiad o’r gwerth a ddaw yn sgil sicrhau fod eu gwasnaethau technegol yn hygyrch.

Darllenwch ein blog datblygwyr gwefannau.

A wyddoch chi?

Nid yw rhai o’r adnoddau awtomataidd yn profi pob un o feini prawf WCAG, a gall pennu ansawdd atebion hygyrchedd fod yn anodd. Gall adnoddau awtomataidd fod yn ddull defnyddiol a rhad o’ch cynorthwyo i wneud gwasanaeth yn fwy hygyrch.  Gellir eu rhedeg yn gyflym ac fe gewch chi adborth yn syth. Fodd bynnag, er y gall rhedeg adnodd profi awtomatidd i fesur gwasanaeth fod yn ddefnyddiol, mae’n bwysig i dimau beidio dibynnu arnynt yn ormodol.  Ni all unrhyw adnodd ganfod pob rhwystr rhag hygyrchedd ar wefan.  Felly, os na fydd adnodd yn canfod anawsterau ynghylch hygyrchedd ar wefan, ni fydd hynny’n golygu nad ydynt yn bodoli. Hyd yn oed os bydd profion awtomataidd yn canfod rhwystr rhag hygyrchedd, weithiau bydd eu canlyniadau yn amhendant neu bydd angen rhagor o waith ymchwil.  Hefyd, mewn rhai achosion, gall canlyniadau fod yn anghywir oherwydd dull gweithredu safonol y profion. Mae ystyried adnodd profi fel defnyddio meddalwedd gwirio sillafu yn gyfatebiaeth dda.  Gall eich cynorthwyo i ganfod anawsterau, heb os, ond ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.  I sicrhau eu bod mor ddefnyddiol ag y gallant fod, dylid cyfuno adnoddau awtomataidd ag archwiliadau gan bobl ac ymchwil gan ddefnyddwyr. Ffynhonnell:  https://accessibility.blog.gov.uk/2017/02/24/what-we-found-when-we-tested-tools-on-the-worlds-least-accessible-webpage/

Cysylltwch â thîm Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw i drefnu profion gan ddefnyddwyr o blatfform eich gwefan.