Yn y byd prysur hwn, mae’n bwysig darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon; dyna pam rydym ni wedi datblygu’r Gwasanaeth Tanysgrifio.

Ar ôl i chi gael achrediad WCAG, bydd yn darparu profion ac adborth rheolaidd i chi fel gallwch chi gynnal eich achrediad.   Mae hyn yn golygu y bydd datblygwyr a dylunwyr cynnwys yn cael cymorth rheolaidd, ac felly bydd hynny’n lleihau’r angen am brofion ac ail-godio ôl-syllol.

Hanner y gwaith yn unig yw profi eich gwefan i ddeall lefel ei hygyrchedd.  Ar ôl diweddaru eich gwefan i’w gwneud yn hollol hygyrch, sut allwch chi sicrhau ei bod yn parhau felly?

Mae gwefannau yn ddynamig.  Gall cynnwys newid yn rheolaidd, ac yn aml iawn, bydd angen ychwanegu at ddefnyddioldeb eich gwefan neu ychwanegu defnyddioldeb newydd.  Gall hyn oll effeithio ar hygyrchedd.

Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatau i chi gynnal hygyrchedd o’r radd flaenaf ar gyfer eich gwefan neu eich ap symudol trwy gydol y flwyddyn, a bydd yn darparu crynodeb misol o hygyrchedd.  Mae cymorth ac arweiniad gan arbenigwyr Gwasanaethau Hygyrchedd Shaw Trust hefyd wedi’u cynnwys yn y pecyn pwrpasol hwn.

Mae’r pecyn hwn yn cynnig tawelwch meddwl i berchnogion gwefannau ac apiau sy’n dymuno sicrhau fod eu gwasanaethau digidol yn parhau yn hollol hygyrch.  Yn ei hanfod, mae’n wasanaeth achredu rheolaidd sy’n adlewyrchu eich ymrwymiad i barhad eich hygyrchedd.

Diwallu eich anghenion

Mae’r Gwasanaeth Tanysgrifio yn becyn pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu eich anghenion penodol.  Yn ogystal â phrofion ac adborth rheolaidd, gall y gwasanaeth hefyd gynnwys hyfforddiant ac  ymgynghori priodol ar gyfer tîm datblygu eich gwefan.  Bydd hyn yn caniatau i chi ymgorffori safonau hygyrchedd wrth wraiff eich prosiectau digidol.

Trwy’r Gwasanaeth Tanysgrifio, gall hygyrchedd ddod yn rhan anhepgor o’ch gwasanaeth, nid rhywbeth wedi’i ychwanegu.  Mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn darparu canllawiau a chymorth ar gyfer pob sector.  O’r herwydd, mae ein harbenigwyr ar gael i chi beth bynnag fo’ch diwydiant neu eich sefyllfa ddigidol.

Bydd ein pecyn tanysgrifio yn sicrhau fod eich defnyddwyr neu eich cwsmeriaid yn cael profiad di-dor a hygyrch ar-lein.  Ar yr un pryd, mae’n cynnig sicrwydd y gwnaiff eich platfformau barhau i ennill achrediad hygyrchedd.

Gall un cam bychan wneud gwahaniaeth enfawr – sicrhewch fod hygyrchedd wrth wraidd dylunio digidol.