Mae’r Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol yn wasanaeth am ddim sy’n datgelu lefel sylfaenol hygyrchedd eich gwefan.  Cynlluniwyd y gwasanaeth i werthuso platfform eich gwefan a chynnig adborth ynghylch pa mor hygyrch yw’r platfform hwnnw.

Mae’r Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol yn fan cychwyn perffaith wrth gychwyn y gwaith o wneud eich gwefan yn fwy hygyrch.

Os hoffech chi i’ch gwasanaethau digidol fod yn hygyrchedd i bawb, waeth beth fo’u gallu, anabledd, oedran neu amhariad, gall y Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol helpu i lywio eich strategaeth.  Mae’r gwasanaeth yn cynnwys archwiliad o’ch gwefan gan arbenigwyr technegol.  Cyflwynir eu dadansoddiad manwl mewn PDF hygyrch yn cynnwys enghreifftiau gweledol.  Cynhwysir eglurhad o unrhyw wallau hygyrchedd.

Gall yr adroddiad lywio unrhyw waith datblygu neu ddylunio y dymunwch ei wneud er mwyn sicrhau fod platfform eich gwefan yn fwy hygyrch.  Darperir yr asesiad a’r adroddiad dilynol yn rhad ac am ddim. Bydd sesiwn adborth hefyd ar gael i’ch helpu i ddeall y trosolwg o’r cynnwys a beth i’w wneud nesaf.

Mae Gwasanaethau Hygyrchedd Shaw Trust yn darparu’r Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol yn rhad ac am ddim oherwydd mae cynorthwyo sefydliadau i greu amgylcheddau hygyrch yn hollbwysig i ni.  Trwy eich cynorthwyo chi, byddwn yn cynorthwyo i ddatblygu byd mwy cynhwysol.

Gellir darparu’r Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol ar gyfer unrhyw wefan neu wasanaeth digidol.  Mae materion yn ymwneud â hygyrchedd yn berthnasol i bob sector o’r gymdeithas, felly gall bob platfform gwefan elwa o’n proses adolygu sydd wedi ennill ei phlwyf.

Gall y Gwasanaeth Hygyrchedd Sylfaenol eich helpu i nodi pa or hygyrch yw eich platfformau digidol presennol, y mathau o heriau ynghylch hygyrchedd y bydd pobl yn eu hwynebu a’r effaith y gall platfform gwefan sydd ddim yn hygyrch ei gael.  Ein nod yw sicrhau y cewch chi’r wybodaeth a wnaiff ganiatau i chi wneud penderfyniadau iawn ynghylch ei presenoldeb ar-lein.

Cysylltwch â Gwasanaethau Hygyrchedd Shaw Trust i gael rhagor o fanylion ac i drefnu eich hadolygiad Hygyrchedd Sylfaenol. Bydd ein tîm yn fodlon eich cynorthwyo wrth i chi symud ymlaen yn ystod y daith o wneud eich gwasanaethau digidol yn fwy hygyrch:

Pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen hon, byddwn yn storio'ch data fel y gallwn ateb eich ymholia (Mae'n Sail Gyfreithiol Diddordeb Cyfreithlon dan GDPR). Am fanylion llawn, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

A wyddoch chi?

Mae cynnydd o 82% wedi digwydd yn nifer defnyddwyr y Rhyngrwyd dros y 5 mlynedd diwethaf.  Mae’r duedd hon yn cynyddu’r angen i sicrhau fod gwefannau yn hygyrch i bawb.

Yn y Deyrnas Unedig, dim ond 41% o bobl anabl sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd, o’i gymharu â 75% o bobl sydd ddim yn anabl (Miller, M. / Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), 2010.