Weithiau, gall deimlo fel eich bod ar eich pen eich hun yn llwyr pan fyddwch chi’n cychwyn ar eich taith tuag at hygyrchedd, ond nid yw hynny’n wir.  Mae Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw ar gael i helpu.

Gallwn gynnig cymorth ac arweiniad arbenigol, a manylion sefydliadau eraill y gallai eu harbenigedd ym maes hygyrchedd fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae manylion rhai o’r sefydliadau sy’n darparu’r wybodaeth fwyaf gwerthfawr ynghylch materion hygyrchedd wedi’u rhestru isod.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw bwnc,  neu os oes gennych chi gwestiwn ond nid ydych yn sicr ble i ganfod yr ateb, ffoniwch ni at 0300 123 7005 neu e-bostiwch accessforall@shaw-trust.org.uk; rydym ni ar gael i helpu.

Equality For All – mae’r cwmni hwn yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i sefydliadau ynghylch eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


What Is Inclusive Design? – mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad gan Ganolfan Dylunio Peirianneg Prifysgol Caergrawnt.


Inclusive environments – dyma fenter i wella ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynllunio mannau sy’n diwallu anghenion yr amrywiaeth o bobl sy’n dymuno eu defnyddio, yn cynnwys y sawl sydd ag amhariadau ac anableddau.


Comisiwn Costau Ychwanegol – dyma ymchwiliad annibynnol sy’n ystyried y costau ychwanegol a wynebir gan bobl anabl a theuluoedd sydd â phlant anabl yng Nghymru a Lloegr.


It Takes All Kinds Of Minds – Meeting And Accommodating Learning Difficulties – mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cipolwg ac arweiniad ymarferol ynghylch sut i ategu anghenion pobl sydd â’r rhai o’r anawsterau dysgu mwyaf cyffredin o dan amgylchiadau beunyddiol.


Sign Video – mae’r sefydliad hwn yn darparu gwasanaethau trosi fideo a gwasanaethau dehongli fideos o bell ar gyfer defnyddwyr BSL yn y Deyrnas Unedig.


Euan’s Guide – mae’r wefan hon yn cynnwys adolygiadau ynghylch mynediad gan bobl anabl, eu ffrindiau ac aelodau eu teulu. Gallwch chwilio gan bennu’r ddinas a’r math o wasanaeth.  Gallwch hefyd gofrestru ac uwchlwytho eich adolygiadau eich hun.


AccessAble – mae gwefan DisabledGo yn darparu gwybodaeth am ddim ynghylch mynediad i nifer enfawr o lefydd i fynd iddynt yn y Deyrnas Unedig, megis gwestai, bwytai, amgueddfeydd, atyniadau i ymwelwyr a llawer iawn rhagor!


Blue Badge Style mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig arweiniad i bobl steilus sydd â llai o allu corfforol sy’n dymuno mwynhau rhai o foethau bywyd, o farrau cŵl i fwytai ffasiynol.


Tourism Is For Everybody – dylai pawb allu mwynhau profiad cadarnhaol wrth deithio neu fynd ar wyliau. Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth a chyngor i gynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw.


Visit Britain – Access For All – mae’r wefan hon yn cynnwys nifer o adnoddau sy’n caniatáu i sefydliadau ddarparu gwasanaeth hygyrch, beth bynnag fod natur y gwasanaeth a gynigir ganddynt.