Mae’r tîm dan arweiniad pobl anabl yng Ngwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynnwys defnyddwyr cyfrifiaduron sydd ag amrywiaeth o anableddau ac amhariadau corfforol.

Dros y blynyddoedd, mae ein tîm wedi profi amrywiaeth enfawr o wefannau ac adnoddau digidol eraill.  Mae hyn wedi rhoi profiad manwl i ni o sut gellir gwneud technoleg ddigidol yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr sydd ag amhariadau corfforol. Ceir rhywfaint o awgrymiadau isod.

Gwnewch eich bysellfwrdd yn haws i’w ddefnyddio

Gallwch newid gosodiadau eich cyfrifiadur neu eich gliniadur i sicrhau fod eich bysellfwrdd yn haws i’w ddefnyddio.  Er enghraifft, gallwch chi reoli amseru trawiadau bysellau a ailadroddir er mwyn osgoi ailadrodd trawiadau bysellau yn fwriadol.

Sicrhewch fod eich llygoden yn haws i’w defnyddio

Mae sawl ffordd o sicrhau fod eich llygoden yn haws i’w defnyddio.  Gallwch ei newid fel bydd yn addas i’w defnyddio â llaw chwith.  Gallwch hefyd arafu cyflymder symudiadau pwyntydd y llygoden ar draws y sgrin. Gellir hefyd arafu a chyflymu cyflymder dwbl-glicio eich llygoden.

Peidiwch â defnyddio bysellfwrdd a llygoden

Os yw eich anabledd neu amhariad yn golygu na allwch chi ddefnyddio bysellfwrdd neu lygoden go iawn, mae sawl dewis arall ar gael i chi.  Maent yn cynnwys defnyddio bysellfwrdd ar sgrin, sydd ar gael ar gyfer bron iawn bob cyfrifiadur, ffôn clyfar a chyfrifiadur llechen.  Mae’r dewisiadau eraill yn cynnwys llygoden pen, sgrin gyffwrdd neu fewngyrch swîts.  Mae meddalwedd adnabod llais wedi datblygu’n sylweddol yn ystod blynyddoedd diweddar a gall fod yn hynod o ddefnyddiol – meddalwedd llais Dragon yw un o’r dewisiadau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd.

Mae meddalwedd hefyd ar gael ar gyfer defnyddwyr a all symud llygoden (neu ddyfais pwyntio arall) ond sy’n cael trafferth clicio.  Mae dewisiadau eraill yn lle mewnbynnu gan ddefnyddio bysellfwrdd ar sgrin hefyd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynghylch gwneud y gorau o’ch teclynnau digidol, cysylltwch â Gwasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw.