Mae Gwasanaethau Hygyrchedd yn fenter elusennol sydd â dros 30 blynedd o brofiad cyfunol o ddarparu gwasanaethau hygyrchedd rhagorol a phroffesiynol.

Byddwn yn cydweithio â chyrff llywodraeth ganolog a lleol, cwmnïau o’r sector preifat ac elusennau ledled yn DU ac yn rhyngwladol.  Ein nod yw cynorthwyo sefydliadau i greu amgylchedd hygyrch i’w staff a’u cwsmeriaid.

Rydym ni’n rhan o Ymddiriedolaeth Shaw, elusen genedlaethol sydd wedi cynyddu ei chyrhaeddiad ers ei sefydlu yn 1982 ym mhentref Shaw, Wiltshire.  Yn wreiddiol, roedd yr elusen yn cynorthwyo’r nifer fechan o bobl leol anabl o Shaw i’w cynorthwyo i ganfod gwaith.  Bellach, bydd Ymddiriedolaeth Shaw yn cynorthwyo dros 50,000 o bobl y flwyddyn ledled y DU a thu hwnt, fel y gallant fyw bywydau annibynnol a chynhwysol.

Mae Gwasanaethau Hygyrchedd yn darparu arweiniad a chymorth ynghylch:

Mae cynhwysiant wrth wraidd ein gwaith ac mae’r tîm ymroddgar yn ymdrechu i rymuso unigolion anabl i fyw yn fwy annibynnol ac ymgysylltu â bywyd y gymuned, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Fel menter elusennol, rhan o’n nod yw addysgu a dylanwadu trwy wella ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol ac adeileddol yn y gymdeithas.  Yn ychwanegol, mae’r tîm yn deall yr heriau bydd sefydliadau yn eu hwynebu ac mae’n gweithio’n weithgar i wella hygyrchedd yn y gymdeithas trwy’r gwasanaethau mae’n eu darparu.

Beth am gwrdd â’r tîm?