Bydd gwefan Gwasanaeth Hygyrchedd yn gosod cwcis (sef ffeiliau data bychan) ar eich cyfrifiadur. Mae hwn yn arfer safonol i bob gwefan.

Byddwn yn defnyddio cwcis i fonitro defnyddwyr y wefan hon er mwyn deall pa rannau o’r wefan a ddefnyddir amlaf neu’n lleiaf amlaf, a pha mor aml byddwch chi’n defnyddio’r wefan, fel gallwn wella eich profiad ar-lein.  Nid ydynt yn ein hysbysu pwy ydych chi.  Rydym hefyd yn defnyddio sgriptiau Google Analytics a Google Adsense, sydd oll yn defnyddio cwcis. Trwy ddefnyddio a phori gwefan Ymddiriedolaeth Shaw, rydych yn cydsynio y gellir defnyddio cwcis yn unol â’n polisi.   Os nad ydych chi’n cydsynio, rhaid i chi analluogi cwcis neu beidio defnyddio’r wefan.  Cyfeiriwch at y ddewislen Help ar eich porwr i gael manylion. Fodd bynnag, efallai gwnaiff hyn gyfyngu ar eich gallu i ddefnyddio gwefan Gwasanaeth Hygyrchedd.

Fel y rhan fwyaf o wefannau, bydd Gwasanaeth Hygyrchedd yn casglu gwybodaeth benodol ac yn ei storio mewn ffeiliau logiau.  Mae’r wybodaeth yn cynnwys cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP), y math o borwr, Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP), tudalennu cyfeirio/gadael, system gweithredu, stamp dyddiad/amser a data ffrwd clicio.

Byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi os byddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad neu’n anfon ffurflen a ddangosir ar wefan y Gwasanaeth Hygyrchedd.  Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu hefyd yn cynnwys eich manylion (e.e. enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a hefyd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu i’n galluogi i ymateb i’ch ymholiad.

Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir gennym amdanoch chi yn gyfreithlon bob tro (yn unol â gofynion Deddf Gwarchod Data 1998).

Defnyddir y wybodaeth a gesglir gennym gan Gwasanaeth Hygyrchedd yn unig.  Bob tro byddwn yn eich e-bostio chi, byddwn yn rhoi cyfle i chi wrthod unrhyw e-byst o’r fath yn y dyfodol.

Defnyddir unrhyw wybodaeth bersonol i ateb eich ymholiadau.  Gellir ei defnyddio hefyd i roi manylion i chi o’r gwasanaethau a gynigir gennym, newidiadau i’n gwefan, ymgyrchoedd codi arian ac ymgyrchoedd eraill a redir gennym, a gweithgareddau eraill Gwasanaeth Hygyrchedd a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein tyb ni.  Gellir cysylltu â chi trwy’r post, dros y ffôn, a thrwy e-bost os ydych chi wedi cydsynio.  Ni wnawn ni eich e-bostio yn y dyfodol ond byddwch chi wedi cydsynio i hynny.

Caiff yr wybodaeth bersonol sydd gennym ni ei chadw’n ddiogel yn unol â’n polisi diogelwch mewnol a gofynion y gyfraith.

Byddwn yn ymdrechu i sicrhau fod yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi yn cael ei diweddaru.  Gallwch chi wirio’r wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi trwy ein he-bostio ni yn y cyfeiriad e-bost a ddarperir isod.  Os oes unrhyw anghywirdeb, rhowch wybod i ni, ac fe wnawn ni gywiro hynny’n brydlon.  Mae gennych chi’r hawl i atal prosesu eich data personol ar unrhyw bryd trwy ein hysbysu ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.

Os byddwn yn bwriadu trosglwyddo eich gwybodaeth y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, byddwn yn gofyn am eich caniatâd yn gyntaf.

Efallai y byddwn yn addasu’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd.  Cewch eich hysbysu am unrhyw newidiadau sylweddol ar dudalen hafan gwefan Gwasanaeth Hygyrchedd.  Byddwch yn rhwym i unrhyw newidiadau byddwn yn ei wneud i’r Polisi Preifatrwydd o’r adeg y gwneir y newid.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau/sylwadau ynghylch preifatrwydd, e-bostiwch.